Neidio i'r cynnwys

Dathlwch eich cariad ar Draeth Pentywyn gyda'n pecyn unigryw, a grëwyd i wneud eich diwrnod mor arbennig â'ch stori gariad. Mae ein bwyty a'n gwesty ar lan y môr.

Yn cynnig lleoliad moethus a heddychlon gyda golygfeydd godidog o'r arfordir.
Cefndir gwirioneddol fythgofiadwy i'ch priodas. 

 

Yr Uchafbwyntiau: 

  • Seremoni hyfryd ar lan y môr yn yr Amgueddfa Cyflymder: Gallwch ddweud eich addunedau gyda sŵn tonnau a harddwch y tywod euraidd yn gefndir i’r cyfan ac yna dathlu yn lleoliad hyfryd a hamddenol Caban ar lan y môr.
  • Brecwast Priodas: Mwynhewch frecwast priodas gourmet wedi'i greu a'i baratoi gan ein cogyddion talentog. O gynhwysion lleol wedi'u paratoi yn ofalus, bydd eich pryd bwyd yn wledd i'w chofio.
  • Trefniadau cynllunio a chydlynu wedi’u personoli: Mae ein tîm priodas ymroddedig yma i ddod â'ch gweledigaeth yn fyw, gan ofalu am bob manylyn fel y gallwch ymlacio a mwynhau eich diwrnod mawr.
  • Llety gwych i chi a'ch gwesteion: Gyda'n hystafelloedd moethus yn edrych dros draeth 7 milltir Pentywyn, gallwch chi a'ch gwesteion aros a mwynhau bob eiliad heb yr angen i deithio.

Mae ein Pecyn Priodas ar lan y môr yn addo cyfuniad perffaith o fwyd gourmet wedi'i weini â steil mewn harddwch naturiol - a'r cyfan mewn lleoliad tawel y byddwch chi a'ch gwesteion yn ei drysori. Gadewch i ni helpu i wireddu priodas eich breuddwydion ar Draeth Pentywyn.