Neidio i'r cynnwys

Y lleoliad perffaith

Beth bynnag fo’r achlysur, mae’ch digwyddiad yn arbennig i chi, boed yn ginio dathlu, digwyddiad codi arian at elusen, parti pen-blwydd neu briodas neu ddiod i ddathlu achlysur, felly gadewch inni wireddu eich gweledigaeth drwy gynnal digwyddiad cofiadwy yn y lleoliad perffaith.

Mae gan ein tîm profiadol wybodaeth ynghyd ag angerdd a brwdfrydedd i sicrhau y bydd eich dathliad yn berffaith i chi. Mae gennym amrywiaeth o gynigion sy'n addas i unrhyw ddigwyddiad, o ddigwyddiadau preifat, te prynhawn, dathliadau pen-blwydd, te angladd, cynadleddau bach, bedydd a llawer mwy.

Mae Bwyty a Bar y Caban, sydd â golygfeydd o'r môr, yn lleoliad delfrydol i'w logi ar gyfer digwyddiadau preifat a gall eistedd hyd at 50 o westeion.

Busnes - Ar gyfer busnes mae gennym ni ystafell gyfarfod sy'n eistedd hyd at 12 o bobl, ac rydym yn darparu offer clyweledol o'r radd flaenaf a rhyngrwyd diwifr am ddim. Rydym wedi creu amrywiaeth o becynnau busnes sy'n darparu ar gyfer eich anghenion busnes. Mae'n cynnwys cyfleusterau te, coffi a diod, prydau ysgafn, 3 chwrs a chyfraddau ystafell fusnes gweithredol. Gall ein gwesteion busnes fanteisio ar y Wi-fi sy’n rhad ac am ddim

Partïon Pen-blwydd Plant

Gallwch gael te parti, bwffe neu bryd o fwyd. Gadewch i ni gymryd gofal o'r arlwyo ar gyfer dathliad pen-blwydd perffaith eich plentyn neu gallwch hefyd llogi ystafell.

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am yr opsiynau o ran arlwyo ac i weld pa ddyddiad sy'n addas.

Te prynhawn

Os ydych yn chwilio am le i ddod ynghyd fel teulu a ffrindiau neu i ddathlu achlysur, dewch i fwynhau sgon â hufen a jam a chael gwledd arbennig. Mae Te Prynhawn yn opsiwn perffaith ichi sbwylio eich hunain.

Pen-blwyddi ac Achlysuron Arbennig

Mae'n werth dathlu pob pen-blwydd neu achlysur arbennig, ond mae yna rai cerrig milltir yn haeddu dathliad go iawn. Mae'r achlysuron hyn yn rhai arbennig, felly os ydych chi eisiau dathliad mawr neu barti bychan gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, byddwn yn falch iawn o'ch helpu i gynllunio a dathlu eich achlysur arbennig.

Partïon Croesawu Babanod a Bedyddiadau

Ychydig o ddigwyddiadau bywyd sy'n gallu cymharu â'r llawenydd o groesawu babi newydd i'r teulu. Mae partïon Croesawu Babanod neu Fedydd yn gyfnod arbennig i bawb ac yn ffordd berffaith o gyflwyno'r un bach i'r byd, a byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gyflwyno'r croeso arbennig.

Dathliad i gofio unigolyn

I lawer o bobl mae angladd yn fwy na ffarwelio, mae'n gyfle i ddathlu bywyd rhywun a hel atgofion am yr hen amserau. Er gwaethaf yr amgylchiadau trist, mae'n aml yn gyfle i deulu a ffrindiau ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd. Mae gan ein tîm digwyddiadau proffesiynol cryn dipyn o ddealltwriaeth ac maent yma i'ch helpu chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Pecyn Swper a Dawns

Yma yn Y Caban, rydym wedi creu pecyn sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar nod eich digwyddiad: Bydd trefnydd digwyddiad pwrpasol yn eich helpu chi i gynllunio'ch diwrnod neu'ch noson, a hynny er mwyn sicrhau bod popeth yn cael ei gynnal mor hwylus â phosibl  er mwyn creu diwrnod neu noson fythgofiadwy.