Croeso i Caban
Mae'r Caban ar lan y môr Pentywyn yn edrych dros ei draeth tywodlyd gwych sy'n 7 milltir o hyd. Mae'r Caban yn lle perffaith i ymlacio, a chrwydro'r ardal leol a thu hwnt. Mae ein lleoliad rhagorol yn rhoi cyfle i westeion fwynhau'r traeth syfrdanol, yr arfordir, yn ogystal â bwyty ar y safle.
![](/media/rbgj3emv/celebrate.jpg?width=800&height=600&v=1d9000c87cc6ff0&format=jpg)
Dathlu
Mae gennym brofiad o gynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac achlysuron o wahanol faint.
P'un a ydych yn chwilio am leoliad agos i gynnal cinio preifat, cynhadledd, cyfarfod neu ddiwrnod hyfforddi, neu i gynllunio dathliad mawr, gallwn weithio gyda chi i gynnal eich digwyddiad perffaith.
Wedi'i leoli ar ddarn 7 milltir o dywod euraidd ym Mhentywyn, mae gennym y cefndir perffaith ar gyfer creu diwrnod llawn atgofion. Mae gennym hefyd ddewis gwych o fwydlenni sy'n addas i gyllideb pawb a byddwn yn gallu cynnig diwrnod bythgofiadwy i'ch holl westeion.
![](/media/jxmjuhvy/2022_11_09_cc_pendine_9926.jpg?width=800&height=600&v=1d8f9df61478550&format=jpg)
Bwyty
Mwynhewch olygfeydd godidog o’r môr o Fae Caerfyrddin sy'n cynnig lleoliad perffaith ar gyfer pryd rhamantus, dathliad arbennig neu gyfle i ymlacio.
P'un a ydych chi'n eistedd i lawr i gael brecwast hyfryd, cinio hyfryd, swper blasus neu ddim ond ymlacio uwch ddiod, byddwch wrth eich bodd yn ein bwyty. Mae rhywbeth at ddant pawb ar ein bwydlen.
![](/media/kzzdbcis/2022_11_09_cc_pendine_9953.jpg?width=800&height=600&v=1d8f9df559ceb00&format=jpg)
Ystafelloedd
Pan fyddwch chi'n aros gyda ni yn y Caban, rydyn ni am i chi deimlo'n gartrefol ac ymlacio gymaint â phosibl. Mae'n hystafelloedd i gyd wedi'u dylunio i wneud y mwyaf o gysur
Gyda 14 ystafell i fodloni’r holl ofynion, ystafelloedd gwely i deuluoedd gyda digon o le, ystafelloedd gwely sy’n hygyrch o ran symudedd, ystafelloedd gwely sy'n croesawu cŵn, a'r cyfan wrth gwrs yn gysurus ac wedi steilio’n gyfoes
P'un a ydych angen llety ar gyfer y teulu cyfan, lleoliad clyd i chi a'ch anwylyd, neu'n chwilio am awyrgylch gartrefol, bydd ein tîm cyfeillgar a chymwynasgar yn dod o hyd i'r ystafell berffaith i chi.
Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gais:
- Oergell
- Ffan
- Golau Desg
Gall gwesteion gyrraedd o 3pm a gadael am 10am.
Sut i gyrraedd ni
Gorsafoedd trên agosaf
Hendy-gwyn tua. 10 milltir, Dinbych-y-pysgod tua. 17 milltir, Caerfyrddin tua. 18 milltir
Llwybrau bysiau
Gwasanaeth 351 i/o Ddinbych-y-pysgod, gwasanaeth 222 i/gan weithredwr Caerfyrddin (Taf Valley Coaches)
Yn y car
O Gaerfyrddin - A40 tuag at Sanclêr, cymerwch yr allanfa 1af i'r A477 am 5 milltir, trowch i'r chwith, ar ôl 0.4 milltir, trowch i'r dde ar y B4314 i Bentywyn. Trowch i'r maes parcio gyferbyn â cyrchfan Parkdean . Mae Caban ar lan y môr
O Orllewin Cymru - Dilynwch yr A477 i Rhos-goch, trowch i'r dde i'r B4314 i Bentywyn. Trowch i faes parcio gyferbyn â cyrchfanParkdean . Mae Caban ar lan y môr