Cynigion Diweddaraf

Arhoswch yn hirach, talwch lai!
Aros ac Arbed yn Caban Pentywyn! Mwy o nosweithiau, llai o bris!
Cynnig Canol Wythnos (Llun – Gwener) – Arhoswch 5 noson, dim ond talu am 4!
Bargen Penwythnos (Gwener–Llun) – Arhoswch 3 noson, dim ond talu am 2!
P'un a ydych chi'n chwilio am wyliau yn ystod yr wythnos neu benwythnos llawn hwyl, mae Caban Pentywyn yn ganolfan berffaith.
Ar gael ar gyfer arosiadau hyd at 31 Awst
Peidiwch â cholli allan – archebwch nawr ac arbedwch eich arhosiad nesaf!
Ddim ar gael gydag unrhyw gynnig arall

Gofalwr di-dâl? Eisiau noson i ffwrdd am ddim?
Yn Galw ar Bob Gofalwr Di-dâl yn Sir Gâr!
Gwelsom y llawenydd ar wynebau gofalwyr a arhosodd gyda ni yn y gorffennol felly rydym wedi penderfynu gwneud y cyfan eto!
Rydyn ni'n gweld eich ymroddiad, eich cariad a'ch ymdrech wrth i chi ymgymryd â'ch rôl bob dydd. Nawr, mae'n bryd canolbwyntio arnoch CHI a'r un sy'n derbyn gofal/cymorth gennych.
O Mawrth 16ed 2026, rydyn ni'n cynnig un noson AM DDIM yn Caban Pentywyn, ynghyd â Chinio a Brecwast – i ddweud diolch o galon am bopeth rydych chi'n ei wneud
- Ystafelloedd hygyrch ar gael
Ystafelloedd sy'n croesawu cŵn
Ystafelloedd teulu
Cysylltwch â ni heddiw drwy ffonio 01267 224622 a dyfynnu FREE CARERS STAY i gael gwybod pa ddyddiadau sydd ar gael a threfnu eich seibiant haeddiannol.
Brysiwch – dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ymlacio a magu nerth!

Pecyn Penwythnos Gweithgareddau
Pecyn Penwythnos Gweithgareddau
Gwener i Sul. Prydau a Gweithgareddau wedi'u cynnwys
£160 y pen yn seiliedig ar 2 yn rhannu ystafell.
Perffaith ar gyfer meithrin tîm, dathliadau a theuluoedd yn dod ynghyd.
Beth sy’n rhan o'r cynnig:
Mwynhewch benwythnos cofiadwy yn Caban Pentywyn yn llawn gweithgareddau, prydau blasus, ac ymlacio. Dyma'r hyn fyddwch chi'n ei gael:
- Arhosiad 2 noson yn Caban o ddydd Gwener i ddydd Sul
- Cyrraedd dydd Gwener ac yna pryd o fwyd gyda'r nos i gychwyn eich penwythnos
- Dydd Sadwrn, deffro i frecwast blasus i'ch paratoi am ddiwrnod llawn o weithgareddau* gyda Morfa Bay gan gynnwys pecyn cinio
(*Gall gweithgareddau gynnwys dewis o'r canlynol: Rhaffau Uchel, Dringo, Gwifren Wibio, Abseilio, Saethyddiaeth, Cwrs Rhwystrau, Sgiliau byw yn y gwyllt)
- Yna dychwelyd i Caban ac ymlacio cyn eich pryd gyda'r nos ar ôl diwrnod llawn hwyl.
- Dydd Sul, ymlacio gyda brecwast swmpus cyn eich antur olaf gyda Gwallgolff cyn gadael.
(Te a choffi wedi'u cynnwys drwy gydol eich arhosiad)
Mae'r pecyn penwythnos hwn yn cynnig antur, ymlacio a hwyl o'r dechrau i'r diwedd!
Ffoniwch 01267 224622 am argaeledd ac i archebu

Tocyn Anrheg
Tocynnau rhodd Caban ar gael i'w prynu. Anrheg berffaith ar gyfer rhywun arbennig.
Talebau ar gael mewn symiau amrywiol o £10 i £50. Cysylltwch â ni i brynu talebau neu i gael mwy o wybodaeth.